Geiriau Caneuon
Gweler y trydar gwreiddiol: https://twitter.com/ywsgwynedd/status/903236416381100032
Pwrpas y project hwn yw:
- Cadw trefn ar yr holl lyrics, yr artistiaid a'u lluniau
- Anfon lyric ar hap i'r cyfri trydar
- Derbyn awgrymiadau gan y cyhoedd
Mae'r app wedi'i seilio ar osodiad sylfaenol o Laravel, felly'n rhedeg ar PHP gyda MySQL fel bas data.
Y Cod
Y lle gorau i ddechrau yw'r ffeil routes/web.php
. Mae'n cynnwys holl URIs yr app, ac yn dangos i ble y anfonir y gorchmynion HTTP.
Mae'r Controllers i gyd yn y ffolder app/Http/Controllers
, sydd yn rheoli'r rhesymeg.
Y Trydar
Anfonir y trydar gyda gorchymyn. Mae'r rhain yn app/Console/Commands
.
Mae'r command TweetRandom yn cael ei redeg pob pum munud (via app/Console/Kernel.php
), ac yn perfformio dwy dasg:
- Checio os oes dwy awr wedi pasio ers y tweet diwethaf
- Taflu deis 180 ochr a checio am 40
Os teflir 40, yna gelwir TweetPost i baratoi y neges.
Mae TweetPost yn galw TweetImage i anfon y llun i API Twitter a dychwelyd y canlyniad yn ol, cyn anfon y trydar terfynol.