cwd24 / termcymru

Geek Repo:Geek Repo

Github PK Tool:Github PK Tool

This is a bilingual text file: Welsh first, then English.

TermCymru
""""""""""""
Yn y ffeil ZIP hon, mae tri pheth:

1. Cronfa ddata TermCymru ar ffurf *.csv. 
Bydd Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yn diweddaru TermCymru o leiaf unwaith y mis. Rhyw deirgwaith y flwyddyn y caiff y lawrlwythiad sy’n ymddangos ar Meta-share ei ddiweddaru. Mae enw'r ffeil yn nodi pryd y diweddarwyd y fersiwn hon o TermCymru.

2. Telerau'r drwydded Creative Commons

3. Readme.txt - sef y ffeil destun hon.

------------------------------

Casgliad yw TermCymru o'r termau y bydd cyfieithwyr Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio wrth eu gwaith bob dydd. Caiff ei ddiweddaru'n rheolaidd ac, erbyn hyn,  mae’n gronfa helaeth o dermau safonol a chyfoes a ddefnyddir yn y gwahanol feysydd y mae'r Llywodraeth yn ymdrin â hwy. Mae hefyd yn cynnwys enwau llawer o gynlluniau a rhaglenni Llywodraeth Cymru, ynghyd â theitlau llawer o'r dogfennau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a chan gyrff eraill. 

Mae’r gronfa’n cynnwys dros 55,000 o barau o dermau Saesneg-Cymraeg (Rhagfyr 2014) ac mae modd chwilio o'r Saesneg i’r Gymraeg yn ogystal ag fel arall. Nodir rhannau ymadrodd ac ati ar gyfer y termau Cymraeg.

Rhoddwyd statws i bob term i ddangos i ba raddau y mae wedi'i safoni: mae term Statws 1 wedi’i safoni’n llawn ond nid yw term Statws 5 wedi mynd drwy’r broses safoni. Ar ôl i derm gael ei drafod a'i safoni, caiff y statws ei godi. Mae'n bwysig ystyried statws pob term cyn ei ddefnyddio.

Rhaid cofio hefyd am bwysigrwydd cyd-destun a’r angen i ddewis y term mwyaf priodol ar gyfer y maes sydd dan sylw. Mae mwy nag un cofnod ar gyfer rhai termau Saesneg yn TermCymru. Weithiau bydd gan un term Saesneg ddau neu dri term Cymraeg cyfatebol, i’w defnyddio mewn cyd-destunau gwahanol. Lle bo angen dewis termau gwahanol ar gyfer cyd-destunau gwahanol, ceir esboniad yn y blwch ‘Cyd-destun’ neu  'Nodiadau'.

I chwilio TermCymru ar lein ac i gael rhagor o wybodaeth gefndirol ewch i: http://www.termcymru.cymru.gov.uk/

Trwyddedir y lawrlwythiad hwn dan drwydded Creative Commons CC-BY, gyda rhai telerau ac amodau ychwanegol.

Cyfeiriad y lawrlwythiad yw http://www.meta-share.eu


TermCymru
""""""""""""

There are three items in this ZIP file:

1. The TermCymru database as a *.csv file. 
The Welsh Government Translation Service updates TermCymru at least once a month. Around three updates a year will be made available for download via Meta-share. The filename shows the date of the iteration.

2. The special terms of the Creative Commons licence

3. Readme.txt - this text file

------------------------------

TermCymru is an English-Welsh terminology database created and maintained by the Welsh Government Translation Service. It is a collection of terms used by Welsh Government translators in their everyday work. It is continually updated with a view to providing an increasingly comprehensive database of terminology which reflects current usage in the various fields of the Government's operation. It also includes the names of Welsh Government initiatives and programmes, and the titles of many documents published by the Welsh Government and other bodies. 

TermCymru is a database of over 55,000 pairs of English-Welsh terms (December 2014) and it can be searched in Welsh or in English. Parts of speech are given for the Welsh terms only.  

Each entry has been given a status denoting its stage in the standardisation process: a Status 1 term has been fully standardised but a Status 5 term will not have been through the standardisation process.  After a term has been discussed and standardised, the status is raised.  It is important to consider the status of a term before using it.

Context is important when choosing the most appropriate term for a particular circumstance. Some English-language terms in TermCymru have more than one entry in the database. Occasionally one English-language term will have two or three Welsh-language equivalents, for use in different contexts. Where different terms are required for different contexts, an explanation is given in the ‘Context” or 'Notes' box. 

You can search TermCymru online: http://www.termcymru.wales.gov.uk 

The TermCymru download is licensed under Creative Commons CC-BY, with some additional terms and conditions.

The address for the download is http://www.meta-share.eu/


About


Languages

Language:Perl 74.7%Language:Shell 25.3%